Cynnyrch Domestig Gros (CDG) yw swm yr holl nwyddau a gwasanaethau y mae gwlad yn eu cynhyrchu – mae’n fesur ariannol o werth nwyddau a gwasanaethau ar y farchnad mewn cyfnod penodol o amser.
Pan fydd gwleidyddion, y cyfryngau ac eraill yn siarad am dwf economaidd, maen nhw’n sôn am gynnydd mewn CDG y pen (CDG y person mewn gwlad).
Mae twf economaidd o’r math hwn yn cael ei gyflwyno’n ‘beth da’ yn gyffredinol bron, tra bod diffyg twf neu ostyngiad yn y ffigur hwn yn cael ei ystyried yn negyddol – dirwasgiad, neu os yw’n parhau dros amser, dirwasgiad dwfn.
Mae’r math hwn o dwf economaidd, yn ddi-os, wedi codi miliynau o bobl allan o dlodi, ac wedi arwain at welliannau enfawr mewn iechyd, addysg a mwy. Mewn gwledydd llai cyfoethog, mae twf yn dal i fod yn gysylltiedig â’r mathau hyn o welliannau. Ond mewn gwledydd cyfoethocach, mae manteision twf CDG sy’n cynyddu’n barhaus yn llawer llai clir.
Y 5 gwlad uchaf o ran CDG y pen yw:
Nod y Mynegai Cynnydd Cymdeithasol yw mesur ansawdd bywyd sy’n annibynnol ar ddangosyddion economaidd. Dyfalwch yr ateb i’r cwestiwn hwn…
Create your own user feedback surveyGall y niwed wrth ganolbwyntio ar dwf CDG ar bob cyfrif fod yn enfawr. Nid yw CDG yn cynnwys pethau hanfodol fel hinsawdd sefydlog, aer glân, gwasanaeth cymunedol, chwarae, na gwirfoddoli. Nid yw ychwaith yn cynnwys gwaith di-dâl – coginio, glanhau a gofal plant.
…a centuries-old tree doesn’t count until you chop it down and sell it as lumber.
Bregman, 2014, t.106
Nid yw CDG yn ystyried llygredd, cam-drin hawliau dynol na datgoedwigo. Mae CDG yn di-hidio ynghylch anghydraddoldeb hefyd – pwy sydd berchen ar yr adnoddau? Pa wahaniaethu a allai gael ei guddio gan ffigurau twf cyffredinol?
Partenaires |
Mentions Légales
Réseaux sociaux |
||||||
|
|
||||||
CapSolidarités© 2021 - Website designed by Marie Wasilewski Graphisme |