‘SDG Compass’

Mae’r Cwmpawd NDC yn rhoi arweiniad i gwmnïau ar sut y gallant gysoni eu strategaethau yn ogystal â mesur a rheoli eu cyfraniad at gyflawni’r NDCau

Gellir defnyddio’r cwmpawd NDC mewn busnesau sy’n bodoli eisoes, ond gellir ei gymhwyso hefyd wrth ddatblygu syniadau neu negeseuon prosiect newydd. Gadewch i ni edrych yn fyr ar y camau cyntaf a gweld sut y gellir eu defnyddio.

Addaswyd o SDG Compass

Ar ôl tanio syniadau gwahanol, penderfynais i a fy ffrindiau ar y syniad o greu siop gacennau untro ‘talu fel y teimlwch’ mewn man gwag yn y brifysgol. Mae gennym ganiatâd i ddefnyddio’r lle. Rydym yn credu y bydd hyn yn gwneud cyfraniad (bach iawn) tuag at y NDCau, neu o leiaf yn osgoi unrhyw niwed. Daethom ar draws Cwmpawd y NDCau, ac rydym yn mynd i geisio defnyddio rhai o’r syniadau i ddatblygu ein syniad prosiect ymhellach.

Er mwyn diffinio blaenoriaethau, fe wnaethant ddefnyddio canllaw Cwmpawd NDC i greu ‘Map Cadwyn o Werthoedd:

Gweithgaredd: Crëwch fap cadwyn o werthoedd ar gyfer eich syniad – mae’r fersiwn uchod yn llinol – efallai y byddwch yn gweld y bydd saeth gylchol neu rywbeth arall yn gweithio’n well i chi. Wrth i chi gwblhau’r gweithgaredd, dyma rhywfaint o awgrymiadau defnyddiol:

  • Meddyliwch am gylch oes gyfan y cynnyrch neu’r gwasanaeth – yr holl fewnbynnau ac allbynnau.
  • Ceisiwch gynnwys pobl eraill yn y broses hon – yn enwedig y rheiny y mae’r gwahanol gamau yn eich map cadwyn o werthoedd yn effeithio arnynt