Pwy yw’r actorion economaidd?

The future of business is, by definition, sustainable – without it, it won’t last long. Sustainable development is no longer simply an option, but a necessity to survive in a constantly changing world. More than this, it is a way of working today that respects the quality of life of mankind and the planet.

Elsen & Bekx 2020

Fel y mae’r dyfyniad hwn yn tynnu sylw ato, mae meddwl am sut y gallwch chi a’ch sefydliad addasu i fyd sy’n newid yn barhaus wedi dod yn bwysicach nag erioed. Ers diwedd y Rhyfel Oer, mae ein byd wedi dod yn fwy a mwy anrhagweladwy. Nid yn unig yr ydym wedi gweld cynnydd cyflym mewn technolegau newydd fel y rhyngrwyd, dyfeisiau clyfar a chyfryngau cymdeithasol, ond rydym wedi gweld cynnydd hefyd mewn bygythiadau byd-eang fel newid yn yr hinsawdd, terfysgaeth, a chenedlaetholdeb eithafol.

Oherwydd yr anrhagweladwyedd modern hwn, daeth yn anodd diffinio’r actorion economaidd traddodiadol oherwydd eu rolau cymdeithasol sy’n newid yn barhaus.  Ond mae dysgu amdanynt yn ddefnyddiol, gan ei fod yn ein helpu i ddeall pa mor gymhleth yw ein byd modern.

Sut mae actorion economaidd yn rhyngweithio â’i gilydd a chyda’r amgylchedd polisi?

Nid oes ateb syml – mae llunwyr polisi yn rhan o’r sector cyhoeddus – ac mae’r sector cyhoeddus ei hun yn actor economaidd. Felly nid yw’r rhyngweithio rhwng yr actorion economaidd a’r amgylchedd polisi yn stryd unffordd. Yn ffodus, mae’r cymhlethdod hwn yn cyflwyno posibiliadau hefyd.

Yn draddodiadol, mae pedwar actor economaidd:

  • Y sector cyhoeddus
  • Y sector preifat
  • Y trydydd sector
  • Unigolion/aelwydydd

Fel y gwelwn yn y sesiwn hon, mae geiriau eraill ar gyfer yr actorion hyn (economi gymdeithasol, cyrff anllywodraethol) gyda diffiniadau amrywiol – pwrpas y sesiwn yw peidio â llunio diffiniadau pendant, ond archwilio sut mae’r gwahanol actorion yn gorgyffwrdd ac yn ymgysylltu â’r economi.