NDC12 a’ch pŵer fel prynwr

Gallwch ddod yn llysgennad NDC ar gyfer pob un o’r NDCau, ond mae eich pŵer fel prynwr– eich penderfyniadau am yr hyn rydych chi’n ei brynu – yn lle gwych i ddechrau arni.

Yn y sesiwn hon, rydym yn ymchwilio’n ddyfnach i NDC12 – defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy.

Gadewch i ni ddechrau drwy glywed gan gynhyrchydd yn Kenya sy’n cynhyrchu te Masnach Deg.

Mae ein planed yn darparu llu o adnoddau naturiol i ni, ond rydym yn defnyddio llawer mwy nag y gall ein planed ei ddarparu.  Mae NDC12 yn ymwneud â chynhyrchu a defnyddio mewn ffordd gynaliadwy – a defnyddio adnoddau mewn ffordd gylchol, nid llinol fel y gwnaethom ei archwilio yng nghwrs 1.

Fel y gwelsom yn yr enghraifft Masnach Deg, gall cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy gyflwyno manteision sy’n lliniaru tlodi hefyd (gan ein bod ni’n sicrhau bod pobl yn cael eu talu’n deg am eu gwaith), dim newyn (wrth i ni ddiogelu ein gallu i dyfu bwyd yn y dyfodol), bywyd ar y tir, bywyd yn y cefnfor, gweithredu ar yr hinsawdd (wrth i ni sicrhau nad yw ein ffermio’n diraddio’r amgylchedd) a chydraddoldeb rhywiol (wrth i ni sicrhau bod menywod mewn busnes yn cael eu cefnogi a hawliau tir ar gyfer menywod yn cael eu diogelu).

Rhowch gynnig ar y cwis cyflym ar NDC12 i brofi eich gwybodaeth.

Create your own user feedback survey