Mesur Heriau’r NDCau

Mesur

Mae’r map hwn yn dangos sut mae’r byd yn gwneud o ran dileu tlodi, ond un o’r heriau mawr gyda’r NDCau yw sut i fesur cynnydd. Hyd yn oed ar lefel genedlaethol, mae rhai dangosyddion yn anodd eu mesur, ac mae hyn yn gallu bod yn fwy anodd i sefydliadau llai sy’n gobeithio cyfrannu at y nodau. Nid yw’r dangosyddion mawr bob amser yn adlewyrchu profiad byw.

Edrychwch ar eich gwlad ar y dangosfwrdd isod i weld sut mae’n datblygu – ydy hyn yn cyd-fynd â’ch profiad eich hun? https://dashboards.sdgindex.org/profiles

Gallwch weld cynnydd byd-eang ar fap rhyngweithiol adroddiad y NDCau.

Pryderon gyda’r NDCau

Fel gydag unrhyw gysyniad neu set o nodau, ni ddylem ystyried y NDCau yn anfeirniadol – fel gydag unrhyw faes o gymhlethdod, byddwch yn dod ar draws beirniadaethau a gwrthddywediadau cyfiawnadwy yn y cwrs hwn.

Er enghraifft:

  • Mae canolbwyntio ar dwf economaidd fel y prif sbardun ar gyfer lleihau tlodi yn y fframwaith NDCau yn gallu gwrthdaro â’r nodau hinsawdd a natur
  • Mae rhai o’r diffiniadau’n amheus – er enghraifft, y diffiniad o dlodi enbyd yw byw ar $1.25, dim digon i ateb anghenion sylfaenol.
  • Mae rhai o’r ffactorau mawr sy’n sbarduno tlodi, fel osgoi treth, yn cael eu gadael heb eu datrys.
  • Fodd bynnag, maen nhw’n fframwaith hynod ddefnyddiol ar gyfer meddwl a gweithredu’n gyfannol ar gynaliadwyedd, cyhyd â’ch bod yn parhau’n ymwybodol o’r heriau hyn.