Llywio’r cymhlethdod

Hyd yn hyn yn y cwrs hwn, rydym wedi archwilio amrywiaeth yr actorion a chymhlethdod yr heriau sy’n ein hwynebu.

Gyda’r cynnydd mewn globaleiddio a thechnolegau digidol, mae’r byd wedi dod yn fwy a mwy cymhleth. Crynhodd y Cadlywydd Byddin yr Unol Daleithiau MG Thompson y teimlad hwn pan oedd yn rhoi’r acronym VUCA am y tro cyntaf ar ôl y Rhyfel Oer.

Mae VUCA yn golygu:

  • Volatilitiy – Anwadalrwydd a ddynodir gan economi fyd-eang na ellir ei hadnabod a oedd yn newid yn sydyn o ran cyflymder, cyfaint a graddfa.
  • Uncertainty –  Ansicrwydd sydd yn cael ei amlygu gan anniogelwch yn peri i’r rheolau economaidd fod yn amhriodol yn sydyn, a rhagfynegiadau, drwy ddiffiniad, yn dod yn annibynadwy.
  • Complexitiy – Cymhlethdod a ddiffinnir gan ddryswch a gwanhau busnesau heb gysylltiad clir â/rhwng achos neu effaith.
  • Ambiguilty – Roedd amwysedd yn teyrnasu dros yr economi, daeth arbenigwyr yn entrepreneuriaid gyda safbwyntiau (o blith y mwyaf) dadleuol, a gwneud penderfyniadau pwysig.

Mae’r fideo’n rhoi ychydig mwy o gefndir am VUCA.

Ar ôl argyfwng ariannol byd-eang 2008, daeth y cysyniad o VUCA yn fwy adnabyddus, wrth i dueddiadau amharu ar ffyrdd traddodiadol o weithio. Mae enghreifftiau o’r tueddiadau hyn yn cynnwys:

  • Yr economi gydweithredol neu rannu (a archwiliwyd yn gynharach) yn dod yn fwy eang oherwydd y rhyngrwyd. Yn ddigidol, rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar Wikipedia, yn rhannu ein bywydau ar Facebook ac Instagram. ac yn cyfnewid fideos ar YouTube, ac mae’r rhyngrwyd yn caniatáu i ni rannu mewn bywyd go iawn hefyd.
  • Gall y datblygiadau a wneir ym maes deallusrwydd artiffisial ddylanwadu’n sylweddol ar y ffordd rydym yn meddwl, yn gweithio ac yn byw. Wrth i ymyrraeth ddynol ddod yn llai ac yn llai angenrheidiol, mae’r gweithlu’n newid, ynghyd â rhai o’r ffactorau sy’n sbarduno cyfalafiaeth.
  • Yn y gorffennol, roedd ymddiriedaeth prynwyr yn seiliedig yn bennaf ar y ddelwedd o gynnyrch fel y’i lluniwyd gan weithwyr marchnata proffesiynol a’r gair llafar. Ond diolch i’r cyfryngau cymdeithasol, mae defnyddwyr bellach yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o adeiladu neu chwalu enw da brand. Mae cymaint o safbwyntiau ag sydd o bobl. Efallai y byddai rhywun yn meddwl mai eich bwyty yw’r lle gorau yn y byd, tra bod un arall yn anobeithio eich bwyd. Mae tryloywder yn dod yn bwysig yn y cyd-destun hwn.