Rydym yn mynd i ystyried model sy’n mabwysiadu ymagwedd sy’n dadflaenoriaethu twf a ac sy’n ein helpu i feddwl am yr economi o ran y NDCau.
Mae’r ‘Doesen’ mewn economeg Toesen yn lle diogel i bobl fyw ynddi, lle nad ydym yn mynd y tu hwnt i’n ‘ffiniau planedol’ – ein pwysau ar systemau cefnogi bywyd y Ddaear (hinsawdd sefydlog, priddoedd ffrwythlon, a haen osôn amddiffynnol) tra’n sicrhau bod pawb uwchlaw ‘llawr cymdeithasol’. Mae’r llawr cymdeithasol yn golygu bod gan bawb hanfodion bywyd – (o fwyd a thai i ofal iechyd a llais gwleidyddol) – mae’r meini prawf ar gyfer y llawr cymdeithasol yn seiliedig ar ddangosyddion y NDCau.
Dyma Kate Rayworth yn esbonio Economeg Toesen ac yn ail-adrodd llawer o’r syniadau rydym wedi’u trafod hyd yn hyn. Gwyliwch y fideo (neu glip o’r fideo – rydym yn argymell 6.30-10.02).
Because we intuitively understand that when something tries to grow forever within a healthy, living, thriving system, it is a threat to the health of the whole.
Kate Rayworth
Os hoffech archwilio enghreifftiau o economeg toesen yn ymarferol, dyma rhywfaint o enghreifftiau o 3 dinas – Philadelphia, Portland ac Amsterdam. Aeth Amsterdam ymlaen i fabwysiadu’r Doesen fel ei model ar gyfer datblygu.
Os hoffech archwilio rhywfaint o bryderon am y model toesen, mae’r adolygiad llyfr hwn yn tynnu sylw at rai cwestiynau mawr heb eu hateb.
Felly, sut y buasem yn symud tuag at ddull mwy cynaliadwy o ymdrin ag economeg? Mae’r tudalennau nesaf yn archwilio rhai syniadau.
Partenaires |
Mentions Légales
Réseaux sociaux |
||||||
|
|
||||||
CapSolidarités© 2021 - Website designed by Marie Wasilewski Graphisme |