Gweithgaredd: Yn yr adran hon, rydych chi’n mynd i gynhyrchu a dewis syniad i weithio arno drwy gydol y modiwl. Gadewch i ni gael ychydig o ysbrydoliaeth yn gyntaf – dyma ddwy enghraifft – un cwmni ac un prosiect:
Enghraifft o gwmni – menter gymdeithasol Fair Diamond
Ydych chi wedi clywed am ‘Ddiemwntau Gwaed’ neu ‘Fwynau gwrthdaro’? Weithiau mae’r pethau rydyn ni’n eu defnyddio yn chwarae rhan mewn ariannu neu danio gwrthdaro a rhyfeloedd ar draws y byd. Mae’r cadwyni cyflenwi yn aml yn gymhleth iawn, felly mae’n anodd i brynwyr wybod p’un a yw’r hyn maen nhw’n ei brynu yn cael effaith niweidiol ai peidio.
Gwyliwch y fideo am y fenter gymdeithasol ‘Fair Diamond’, a nodwch y NDCau y mae’n gysylltiedig â nhw.
Mae fideo yn dod o MOOCS gan UCLouvain
Enghraifft unigol – ZimGirl Narratives
Nawr, ailadroddwch y gweithgaredd ar gyfer y prosiect unigol – ZimGirl Narratives Beth yw’r cyfraniad tuag at y NDCau?
(addaswyd o Global ChangeMakers)
Yn Zimbabwe, bu anghyllt gwleidyddol, mwy o dlodi, a llygredd. O ganlyniad, mae niwed cymdeithasol wedi cynyddu. Mae:
Rhodwyr yn parhau i gynnal naratifau anghywir o brofiadau byw yr anghyfiawnderau yng nghefn gwlad anghysbell Zimbabwe. Er mwyn newid hyn, cynhaliodd Feminist Voices Zimbabwe y prosiect ZimGirlNarratives – adroddodd 10 o bobl greadigol amlbwrpas, gwledig, straeon i’w cyhoeddi ar draws y cyfryngau. Cawsant eu hyfforddi mewn ysgrifennu creadigol, celf weledol a sut i drosoli eu profiadau i ddatblygu ac ysgrifennu straeon gan ddefnyddio eu doniau creadigol.
Roedd tair thema – Tlodi Mislif, Ansicrwydd Bwyd, ac Addysg Merched. Roedd hwyluswyr y sesiynau hyfforddi ac adrodd straeon yn awduron a newyddiadurwyr â gwaith wedi’i gyhoeddi, ac wedi hen arfer ar weithio ar brosiectau tîm at ddibenion arddangos digidol.
Gwerthwyd y celfyddyd a gynhyrchwyd gan y cyfranogwyr ar blatfformau digidol Feminist Voices Zimbabwe a chyhoeddwyd y gwaith ysgrifenedig fel casgliad o straeon byrion a ailgyfeiriodd enillion at fentrau creadigol a chostau addysgol parhaus y cyfranogwyr. Effaith y prosiect oedd bod pobl ifanc creadigol wedi cael cymorth parhaus i ddatgloi eu potensial llawn a’u sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol. Arweiniodd y prosiect at gynnydd mewn prif ffrydio anghydraddoldeb rhywedd hefyd, a chreu llinell sylfaen ar gyfer rhoddwyr sy’n ceisio targedu mathau penodol o niwed cymdeithasol.
Archwilio ysbrydoliaeth arall
Mae’r enghreifftiau hyn yn ymwneud â NDC16. Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau mwy ysbrydoledig o brosiectau NDCau o’r tudalennau canlynol.
Partenaires |
Mentions Légales
Réseaux sociaux |
||||||
|
|
||||||
CapSolidarités© 2021 - Website designed by Marie Wasilewski Graphisme |