Dewisiadau amgen i CDG
Fodd bynnag, mae dewisiadau amgen i CDG – pethau y gallwn eu mesur sy’n rhoi gwell syniad o sut rydym yn symud ymlaen, heb niweidio’r blaned. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
Nid oes unrhyw fetrig yn berffaith, ac ni allwn fesur yr holl bethau sy’n bwysig i ni – ac mae unrhyw fesur (gan gynnwys CDG) yn cynnwys nifer o farnau gwerth. Dewiswch un o’r dangosyddion amgen i’w hadolygu, yna cwblhewch y Padlet isod gydag un peth sy’n bwysig yn eich bywyd sydd ddim cael ei fesur yn y dangosydd a adolygwyd gennych (cliciwch ar y botwm + ar waelod y Padlet i ychwanegu eich cyfraniad).
Yn sail i’r dangosyddion amgen, mae’r angen naill ai am ddadflaenoriaethu twf economaidd neu gydbwyso’r angen am dwf â’r niwed a achosir gan dwf.
Fodd bynnag, mae dulliau eraill yn awgrymu bod angen i ni lwyr ddatgysylltu’r cysylltiad rhwng ein cynnydd fel pobl a thwf economaidd (‘dad-dyfu’). Mae ‘dad-dyfu’ yn ddamcaniaeth wleidyddol ac economaidd sy’n canolbwyntio ar newid blaenoriaeth cymdeithas o dwf economaidd i gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol. Gwyliwch y fideo – beth yw eich hymateb cychwynnol at ‘ddad-dyfu’.
Partenaires |
Mentions Légales
Réseaux sociaux |
||||||
|
|
||||||
CapSolidarités© 2021 - Website designed by Marie Wasilewski Graphisme |