Rydym wedi gwneud cynnydd gyda’n syniad, ond rydym yn dechrau amau ein hunain. Allwn ni wneud hyn? Mae’n ymddangos bod gan rai pobl yr ydym wedi siarad â nhw amheuon, ac mae cymaint o broblemau i’w goresgyn. Argymhellodd ffrind ein bod ni’n rhoi’r gorau i chwilio am broblemau, a mabwysiadu ymagwedd sy’n fwy tebyg i Ymchwiliad Gwerthfawrogol.”
Ym mhob un o’r camau hyn, adnodd defnyddiol yw Ymchwiliad Gwerthfawrogol. Datblygwyd yr adnodd hwn yn yr 80au fel gwrthbwynt i ddulliau sy’n seiliedig ar broblemau. Mae ymchwiliad gwerthfawrogol yn canolbwyntio ar nodi, dathlu a datblygu’r hyn sydd eisoes yn gweithio’n dda, yna distyllu gwreiddiau’r llwyddiant i ddychmygu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae’n gylch gwelliant parhaus.
Mae ymchwiliad gwerthfawrogol yn ddull defnyddiol iawn ar gyfer problemau cymhleth, gan fod cymaint o achosion sylfaenol sy’n anodd eu hoelio ac yn aml, nid ydym yn gwybod beth yw’r ateb nes i ni roi cynnig arni. Mae’n dechneg wych hefyd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, oherwydd eich bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cryfderau y mae pawb yn eu cynnig.
Mewn munud, byddwch yn gwylio fideo a allai helpu i ddangos Ymchwiliad Gwerthfawrogol. Yn y fideo, mae problem – sef coeden yn rhwystro’r ffordd. Ond does dim dadansoddiad manwl o’r broblem – dim edrych ar ba achosion sylfaenol y gellir eu beio. Nid oes cynllun ychwaith ar gyfer ateb. Dim ond un person gyda syniad, ac eraill sy’n barod i ymuno.
Mae rhan o ddefnyddio’r adnodd hwn yn gwestiynu gwerthfawrogol. Yn aml, pan welwn sefyllfa, rydym yn chwilio am y problemau, y materion a’r pethau sydd angen gwella. Rydym yn gofyn cwestiynau fel: “Beth sydd o’i le? Beth sy’n achosi’r broblem? Beth yw’r bylchau?” Ond gyda dull gwerthfawrogol, rydym yn hytrach, yn chwilio am gryfderau a llwyddiant i adeiladu arnynt. Yn seiliedig ar y disgrifiad hwn, allwch chi ddyfalu pa rai o’r canlynol sy’n cael eu hystyried yn gwestiynau gwerthfawrogol?
Create your own user feedback surveyMae cwestiynu gwerthfawrogol yn seiliedig ar ysbryd o chwilfrydedd yn hytrach na barn – rydych chi eisiau ddarganfod mwy, nid beirniadu na chwestiynu’r ymatebion. Pe bai rhywun a oedd yn gwylio’r bachgen yn y fideo wedi dweud: “Dyna ddigon, paid â bod yn wirion – ti’n rhy fach i symud y goeden yna” ni fyddai dim wedi newid. Yn hytrach, roedd pobl yn barod i roi cynnig ar y syniad.
Meddyliwch am her rydych chi’n ei hwynebu. Nodwch 3 neu 4 cwestiwn gwerthfawrogol y gallech eu gofyn a fyddai’n eich helpu i ddeall y rheini’n ddyfnach.
Beth yw’r cryfderau y mae’r gwahanol bobl dan sylw yn eu cynnig i’r syniad? Chwiliwch am brosiectau a chynlluniau tebyg i’ch syniad chi, a mabwysiadwch ymagwedd Ymchwiliad Gwerthfawrogol i’w archwilio hefyd – beth sy’n dda y gallwch adeiladu arno?
Partenaires |
Mentions Légales
Réseaux sociaux |
||||||
|
|
||||||
CapSolidarités© 2021 - Website designed by Marie Wasilewski Graphisme |