Mae cyflawni’r NDCau yn golygu mynd i’r afael â heriau byd-eang niferus a chydgysylltiedig. Felly, mae angen cymwyseddau allweddol ar y rheiny sy’n gweithio ar y NDCau i ddeall cymhlethdod, rhyngberthnasau, i allu gweithredu’n gadarnhaol a dod o hyd i atebion ar gyfer byd cynaliadwy.
Mae llawer o gymwyseddau i’w datblygu ond peidiwch â chynhyrfu! Mae gan y cwrs hwn ddigon o adnoddau i’ch helpu i ddechrau arni.
Beth yw cymhwysedd allweddol?
The application of universal knowledge and skills across a range of social, work, and geographical settings
UNESCO 2015
Mae llawer o fframweithiau cymhwysedd wedi cael eu datblygu, ond mae rhai’n canolbwyntio ar y cymwyseddau sydd eu hangen arnom i weithredu tuag at y NDCau. Er enghraifft, nododd UNESCO (2017) wyth cymhwysedd. Darllenwch y tabl, yna rhowch gynnig ar y cwis.
- Cymhwysedd mewn meddwl systemau: y gallu i adnabod a deall cydberthnasau; dadansoddi systemau cymhleth; meddwl am sut mae systemau wedi’u gwreiddio o fewn gwahanol barthau a gwahanol raddfeydd; ac i ddelio ag ansicrwydd.
- Cymhwysedd mewn rhagweld: y gallu i ddeall a gwerthuso amryfal ffurfiau ar y dyfodol – posibl, tebygol a dymunol; creu eich gweledigaethau eich hun ar gyfer y dyfodol; cymhwyso’r egwyddor ragofalus; i asesu
- Canlyniadau camau gweithredu; ac i ddelio â risgiau a newidiadau.
- Cymhwysedd normadol: y gallu i ddeall a myfyrio ar y normau a’r gwerthoedd sy’n sail i weithredoedd rhywun; a thrafod gwerthoedd, egwyddorion, nodau a thargedau cynaliadwyedd, yng nghyd-destun gwrthdaro buddiannau a masnachwyr, gwybodaeth ansicr a gwrthddywediadau.
- Cymhwysedd strategol: y gallu i ddatblygu a gweithredu camau arloesol ar y cyd sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd ar lefel leol a thu hwnt.
- Cymhwysedd cydweithredu: y gallu i ddysgu gan eraill; deall a pharchu anghenion, safbwyntiau a gweithredoedd pobl eraill (empathi); deall, ymgysyllltu, a bod yn sensitif i eraill (arweinyddiaeth empathig); delio â gwrthdaro mewn grŵp; a hwyluso datrys problemau cydweithredol a chyfranogol.
- Cymhwysedd mewn meddwl beirniadol: y gallu i gwestiynu normau, arferion a barnau; myfyrio ar eich gwerthoedd, canfyddiadau a gweithredoedd eich hun; a mabwysiadu safbwynt yn y drafodaeth ar gynaliadwyedd.
- Cymhwysedd hunanymwybyddiaeth: y gallu i fyfyrio ar eich rôl eich hun yn y gymuned leol a chymdeithas (fyd-eang); gwerthuso a chymell eich gweithredoedd eich hun yn barhaus; a delio â theimladau a dymuniadau rhywun.
- Cymhwysedd datrys problemau integredig: y gallu cyffredinol i gymhwyso gwahanol fframweithiau datrys problemau i broblemau cynaliadwyedd cymhleth, a datblygu opsiynau ateb hyfyw, cynhwysol a theg sy’n hyrwyddo datblygu cynaliadwy, gan integreiddio’r cymwyseddau a grybwyllir uchod.
Create your own user feedback survey