Byddwch yn wyliadwrus o ‘SDG Washing’

Mae rhai rhanddeiliaid wedi ymrwymo go iawn i gyflawni’r NDCau, ond mae rhai sydd yn ‘gwyngalchu’r NDCau

Mae ‘Gwyngalchu’r NDCau’ yn digwydd pan fod sefydliad yn ceisio gwella ei enw da drwy ddatgan ei ymrwymiad i’r NDCau yn gyhoeddus, ond heb y camau i gefnogi hyn. Mae ‘golchi NDC’ yn ymwneud yn fwy â marchnata na gweithredu cadarnhaol ac ymrwymiad diffuant.

Sut i adnabod gwyngalchu NDCau:

  • cwmni neu gorff anllywodraethol yn canolbwyntio ar un NDC yn unig heb gael unrhyw effaith ar y lleill
  • nid oes data nac adroddiad ar gael ar effaith eu gwaith NDC
  • Mae camau eraill a gymerir ganddynt yn cael effaith negyddol llawer mwy na’u gweithredoedd NDCau – e.e. plannu 10 coeden mewn un lle ond torri miloedd i lawr yn rhywle arall
  • cwmni yn tynnu sylw at weithred y mae wedi’i disgrifio fel ‘arfer da’ pan fo hon yn ofyniad cyfreithiol mewn gwirionedd

I’r gwrthwyneb, bydd sefydliad sydd o ddifrif am y NDCau yn ystyried ei effaith ar draws pob un o’r 17 o NDCau, hyd yn oed os yw’n gwneud hyn drwy lens 1 neu 2 o’r NDCau. Dangosir enghraifft o hyn ar gyfer NDC5 ar ryw isod.

Gyda chaniatâd gan www.np.undp.org/content/nepal/en/home/library/gender-equality-and-social-inclusion/gender-in-the-SDG-era.html
Create your own user feedback survey