Lansiwyd y 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDCau) neu’r ‘Nodau Byd-eang’ yn 2015. Yr uchelgais yw eu cyflawni erbyn 2030.
Mae’r nodau wedi’u cydgysylltu – felly mae cynnydd ar un yn effeithio ar y lleill. Er enghraifft, gall plannu mwy o goed (o’r math cywir) helpu bywyd ar y tir (nod 15) a lliniaru newid yn yr hinsawdd (nod 13).
Gall darparu swyddi da (nod 8) leihau anghydraddoldeb (nod 10). Nid yw’r effaith bob amser yn llinellol – gallech leihau tlodi (nod 1) ond drwy ffyrdd sy’n niweidio’r blaned ac a allai arwain at anghydfod dros adnoddau cyfyngedig (nod 16).
Beth mae’n ei olygu yw, pan fyddwn yn meddwl am y NDCau, bod angen i ni fabwysiadu ymagwedd gyfannol – ac ystyried effaith ar draws bopeth.
Os hoffech archwilio pob nod yn fanylach, mae’r graffig rhyngweithiol ar dudalen nodau’r Cenhedloedd Unedig yn dangos targedau, enghreifftiau a digwyddiadau ar gyfer pob nod.
Partenaires |
Mentions Légales
Réseaux sociaux |
||||||
|
|
||||||
CapSolidarités© 2021 - Website designed by Marie Wasilewski Graphisme |