Yr economi a’r NDCau

Economics is too important to be left to economists.

Banerjee & Duflo 2020 t.326

Mae’r rhan fwyaf o wledydd yn ein heconomi fyd-eang yn ymdrechu i gyflawni twf economaidd. Rydym yn cysylltu llwyddiant cwmnïau a’r llywodraeth â thwf economaidd. Mae twf yn cael ei sbarduno gan gynnydd mewn defnyddio – ninnau, fel defnyddwyr, yn prynu nwyddau a gwasanaethau.

Gallai fod llawer o wahanol ffyrdd o ddeall twf economaidd ond yn gyffredinol, CDG y pen yw’r metrig a ddefnyddir. Nid yw hyn yn anochel – Dim ond yn y 1930au y dyfeisiwyd y metrig CDG y pen.

Wrth i effeithiau’r argyfyngau hinsawdd a natur gael eu teimlo ar draws y byd, mae mwy a mwy o bobl yn cydnabod bod y ffocws unigol hwn ar dwf economaidd yn niweidiol. Ond mae ffyrdd eraill o feddwl am yr economi. Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o’r syniadau economaidd hyn, a sut y gellir eu cymhwyso’n ymarferol.

Erbyn diwedd y modiwl byddwch wedi:

  • Archwilio ein system economaidd bresennol a’ch rôl ynddi
  • Dadansoddi rhywfaint o syniadau economaidd amgen
  • Myfyrio ar y gwahanol syniadau economaidd a’u rôl wrth gyflawni’r NDCau