Am daith! Yn y ddau gwrs hyn, rydych wedi dysgu rhywfaint o’r syniadau allweddol sy’n hanfodol i gyflawni’r NDCau, ac wedi archwilio eich barn a’ch rôl eich hun.
Rydych chi wedyn, wedi archwilio cymwyseddau’r NDCau – y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gynnwys ffordd o feddwl NDC yn eich gyrfa a’ch bywyd yn y dyfodol. Rydych chi wedi diagnosio eich sgiliau eich hun. Rydych chi wedi archwilio sut i fod yn llysgennad NDC hefyd, gyda golwg fanylach ar NDC12.
Yn olaf, rydych chi wedi dwyn ynghyd eich gwybodaeth a’ch sgiliau newydd i gynllunio eich syniad, cwmni neu brosiect NDC eich hun.
Ar y dudalen nesaf, mae rhywfaint o adnoddau rhag ofn eich bod chi eisiau archwilio unrhyw un o’r pynciau hyn ymhellach. Cyn hynny, cwblhewch ein harolwg terfynol sy’n archwilio’r hyn rydych wedi’i ddysgu, y camau rydych chi wedi ymrwymo iddynt, ac efallai rhywfaint o gamau rydych chi wedi’u cymryd yn barod. Byddem wrth ein bodd yn clywed amdano petasech yn rhoi unrhyw rai o’ch syniadau ar waith. E-bostiwch centre@wcia.org.uk neu cysylltwch drwy twitter @Wcia_Wales i roi gwybod i ni sut rydych chi’n dod yn eich blaen.
Create your own user feedback surveyPartenaires |
Mentions Légales
Réseaux sociaux |
||||||
|
|
||||||
CapSolidarités© 2021 - Website designed by Marie Wasilewski Graphisme |