Pwy sy’n cyflwyno’r NDCau?

Archwilio actorion economaidd a’r amgylchedd polisi

Ymunodd 193 o lywodraethau â’r NDCau yn 2015, felly mae’n rhaid i lywodraethau gymryd cyfrifoldeb am gyrraedd y nodau – mae’r targedau yn y nodau yn ddangosyddion cenedlaethol.  Fodd bynnag, mae’n amhosibl cyrraedd y nodau heb i bob rhan o gymdeithas chwarae rôl. Mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, o unigolion i sefydliadau mawr, i gyd gefnogi cynnydd tuag at y Nodau Byd-eang.

Yn y modiwl hwn, rydym yn defnyddio astudiaethau achos i archwilio rhai o’r actorion economaidd amrywiol a’u rôl o ran darparu’r NDCau, a’r mathau o amgylcheddau polisi a allai alluogi actorion ac unigolion economaidd i wneud cyfraniadau.

Erbyn diwedd y modiwl, byddwch wedi:

  • Archwilio actorion economaidd amrywiol, eu rôl o ran cyflwyno’r NDCau, a sut mae’r amgylchedd polisi yn chwarae rôl
  • Dadansoddi rôl actorion economaidd gymdeithasol, a galluogi amgylcheddau polisi drwy astudiaethau achos
  • Myfyrio ar y cyfleoedd sy’n deillio o’r amrywiaeth o actorion sy’n cyflawni’r NDCau, a’r rôl y gallech ei chwarae